Jeremiah 12

Jeremeia'n cwyno

1Arglwydd, ti sydd bob amser yn iawn
pan dw i'n cwyno am rywbeth.
Ond mae'n rhaid i mi ofyn hyn –
Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo?
Pam mae'r rhai sy'n twyllo yn cael bywyd mor hawdd?
2Ti'n eu plannu nhw fel coed,
ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau.
Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth.
Maen nhw'n siarad amdanat ti trwy'r amser,
ond dwyt ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn.
3Ond rwyt ti'n fy nabod i, Arglwydd.
Ti'n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti.
Llusga'r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd;
cadw nhw o'r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa.
4Am faint mae'n rhaid i'r sychder aros,
a glaswellt y caeau fod wedi gwywo?
Mae'r anifeiliaid a'r adar wedi diflannu o'r tir
am fod y bobl sy'n byw yma mor ddrwg,
ac am eu bod nhw'n dweud,
“Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni'n ei wneud.”

Duw yn ateb cwyn Jeremeia

Yr Arglwydd:
5“Os ydy rhedeg ras gyda dynion yn dy flino di,
sut wyt ti'n mynd i fedru cystadlu gyda cheffylau?
Os wyt ti'n baglu ar y tir agored,
beth am yn y goedwig wyllt ar lan yr Iorddonen?
6Y gwir ydy, mae hyd yn oed dy berthnasau
wedi dy fradychu di.
Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di.
Felly paid â'i credu nhw,
hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig.
7Dw i wedi troi cefn ar fy nheml,
a gwrthod y bobl ddewisais.
Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caru
yn nwylo eu gelynion.
8Mae fy mhobl wedi troi arna i
fel llew yn y goedwig.
Maen nhw'n rhuo arna i,
felly dw i yn eu herbyn nhw
12:8 Hebraeg, “casáu nhw”
.
9Mae'r wlad fel ffau hienas
ac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas!
Casglwch yr anifeiliaid gwylltion i gyd.
Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.
10Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan b,
a sathru'r tir ddewisais.
Byddan nhw'n troi y wlad hyfryd
yn anialwch diffaith.
11Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr,
nes bydd yn grastir gwag.
Bydd y tir i gyd wedi ei ddinistrio,
a does neb o gwbl yn malio.
12Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch.
Nhw ydy'r cleddyf mae'r Arglwydd yn ei ddefnyddio
i ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall.
Fydd neb yn saff!
13Mae fy mhobl wedi hau gwenith,
ond dim ond drain fyddan nhw'n ei gasglu!
Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd.
Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd,
am fod yr Arglwydd wedi digio'n lân hefo nhw.”

Duw yn bygwth cymdogion Israel

14Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw. 15Ond ar ôl symud y bobl bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun. 16Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw y duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr Arglwydd yn fyw,’ wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi. 17Os wnân nhw ddim gwrando, bydda i'n eu diwreiddio nhw ac yn eu dinistrio nhw'n llwyr,” meddai'r Arglwydd.

Copyright information for CYM